Beth Sy'n Digwydd Yn Fy Mhen?

Beth Sy'n Digwydd Yn Fy Mhen?

Vendor
Molly Potter & Sarah Jennings
Regular price
£10.99
Sale price
£10.99
Regular price
Sold out
Unit price
per 

Tax included.

For UK deliveries shipping is calculated at checkout. For International deliveries check shipping options here. We currently offer international delivery to the following territories: Europe, United States, Canada, Australia and New Zealand.

 

Oed 3-7 | Clawr caled | 32 tudalen| 250 x 250mm
Cyhoeddiad Gorffennaf 2021 | ISBN 978191373378

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod meddwl iach yn bwysig dros ben, ond sut mae gwneud yn siwˆr ein bod ni’n gofalu am ein hiechyd meddwl o oedran ifanc iawn? Mae Beth Sy’n Digwydd Yn Fy Mhen? yn llyfr i blant sy’n edrych ar ffyrdd ymarferol o gadw ein meddwl, yn ogystal â’n corff, mewn cyflwr da.

Drwy drafod hunanddelwedd gadarnhaol, deallusrwydd emosiynol, perthnasoedd a meddylgarwch, mae’r llyfr yn annog plant i ddatblygu arferion iach a dulliau i’w helpu i ymdopi o’r dechrau’n deg. Bydd yn helpu i sefydlu sylfeini cadarn ar gyfer lles pob plentyn, nawr ac yn y dyfodol, a hynny mewn ffordd gyfeillgar, ddi-lol ac addas i blant. Mae Beth Sy’n Digwydd Yn Fy Mhen? yn ffordd ddelfrydol o daro sgwrs â phlant am eu lles meddyliol ac emosiynol ac yn hanfodol I unrhyw riant sy’n deall pwysigrwydd cynnal meddwl iach.

Mae’r llyfr hwn ar restr y cynllun Darllen yn Well i blant gan The Reading Agency.