
Clawr meddal | Tudalen 160 | 216 x 135mm
Cyhoeddwyd Tachwedd 2024| ISBN 9781802587579
Cynnwys:
Wedi eu casglu gan bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, a’u hateb gan arbenigwyr profiadol, mae’r llyfr hwn yn cynnig atebion pendant i’r Cwestiynau Cyffredin am Ddementia.
Does yna’r un cwestiwn sy’n rhy syml, yn rhy chwithig neu’n rhy ryfedd i’w gynnwys, ac mae miloedd o bobl fel chi wedi eu holi. Cronfa wybodaeth sy’n rymus, yn ddefnyddiol ac yn ymarferol – gallwch ddarllen y cyfan o glawr i glawr wrth eich pw ysau neu bori’n achlysurol pan fydd angen yr help arnoch. Trwy daflu goleuni ar y meddyliau a’r teimladau sy’n eich gwneud chi’n anghyfforddus neu’n anhapus, bydd eu tynnu o’r cysgodion yn eich helpu i’w deall a’u derbyn.
Awduron:
Mae Dr Tom Russ PhD FRCPsych yn seiciatrydd ymgynghorol yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Lothian ac yn ddarllenydd clinigol anrhydeddus ym Mhrifysgol Caeredin.
Mae wedi gweithio yn y GIG ers 2004, o Caithness yng ngogledd yr Alban i Orllewin Sussex ar arfordir de Lloegr, a sawl lle arall rhwng y ddau. Roedd ei PhD yn canolbwyntio ar ffactorau risg ar gyfer dementia, gan holi’n benodol a yw ble mae pobl yn byw a ffactorau risg amgylcheddol yn bwysig. Mae’n Gyfarwyddwr Alzheimer Scotland
Dementia Research Centre ym Mhrifysgol Caeredin ac yn Hyrwyddwr Ymchwil Glinigol NHS Research Scotland (NRS) Neuroprogressive and Dementia Network. Michael Huddleston yw Ymgynghorydd Dementia Alzheimer Scotland ar gyfer Midlothian ac East Lothian.
Mae’n rhoi cyngor a gwybodaeth i bobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd, ac mae’n gweithio’n agos gyda Phartneriaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol lleol i lunio a dylanwadu ar strategaethau dementia a strategaethau penodol i ofalwyr, ac i ddiwallu anghenion ac ystyried barn pobl sydd â phrofiad o fyw gyda dementia.