Clawr meddal | Oed 3-5 | 250x200mm
Cyhoeddwyd Chwefror 2025| ISBN 9781802587104
Cynnwys:
Daeth y diwrnod i Divya ddewis ei bindi. Ond wrth iddi baratoi i fynd i’r ysgol, mae’r amheuon yn dechrau dod. A fydd hi’n ddigon dewr i wynebu’r disgyblion eraill a’u cwestiynau? Sut fydd ei bindi’n teimlo? Yn y stori rymus hon am hunanddarganfod, mae merch ifanc yn dod o hyd i ddewrder y tu mewn iddi hi ei hun, ac mae’n dysgu sut i ddathlu ei chefndir a phwy yw hi go iawn.
Awdur:
Cafodd Gita Varadarajan ei geni a’i magu yn India. Mae hi wedi gweithio gyda phlant ledled y byd, ac mae bellach yn dysgu ail radd yn Princeton, New Jersey. Save Me a Seat, a ysgrifennwyd gyda Sarah Weeks, oedd ei nofel gyntaf.
Darlunydd:
Mae Archana Sreenivasan yn ddarlunydd llawrydd wedi’i lleoli yn Bangalore, India. Mae ei darluniau wedi cael eu cyhoeddi mewn cylchgronau, llyfrau plant, cloriau llyfrau, a chomics. Y byd naturiol a gwylio pobl sydd fwyaf ysbrydoledig ac atyniadol iddi hi.