Mali a'r Goleudy
Mali a'r Goleudy
Mali a'r Goleudy
Mali a'r Goleudy
Mali a'r Goleudy
Mali a'r Goleudy
  • Load image into Gallery viewer, Mali a'r Goleudy
  • Load image into Gallery viewer, Mali a'r Goleudy
  • Load image into Gallery viewer, Mali a'r Goleudy
  • Load image into Gallery viewer, Mali a'r Goleudy
  • Load image into Gallery viewer, Mali a'r Goleudy
  • Load image into Gallery viewer, Mali a'r Goleudy

Mali a'r Goleudy

Vendor
Malachy Doyle and Andrew Whitson
Regular price
£7.99
Sale price
£7.99
Regular price
Sold out
Unit price
per 

Tax included.

For UK deliveries shipping is calculated at checkout. For International deliveries check shipping options here. We currently offer international delivery to the following territories: Europe, United States, Canada, Australia and New Zealand.

 

Oed 5-7 | 32 tudalen | 250 x 250mm | Cyhoeddwyd Gorffennaf 2020
Clawr caled: ISBN 9781913634179
Clawr meddal: ISBN 9781914079306

Mae Mali’n deffro yn y nos gan wybod bod rhywbeth o’i le – rhywbeth mawr. Mae’r goleudy y tu allan i’w ffenest yn dywyll fel y fagddu. Heb ei belydryn, sut gall ei thad, sydd allan yn pysgota ar y môr tywyll yn ei gwch bach coch, ddod yn ôl i’r harbwr yn ddiogel? Rhaid i Mali ailgynnau’r golau … ar unwaith!

Stori gynnes, lawn cyffro, am gariad, dewrder a dyfalbarhad.

Llyfrau yn y gyfres:

Mae dros gant o lyfrau Malachy Doyle wedi cael eu cyhoeddi, o lyfrau bwrdd i’r plant lleiaf i nofelau afaelgar i ddarllenwyr yn eu harddegau. Mae wedi ennill nifer o wobrau pwysig, ac mae ei lyfrau wedi’u cyfieithu i ryw ddeg ar hugain o ieithoedd.

Yn ogystal â’r ddwy stori flaenorol yng nghyfres Mali, Mali a’r Môr Stormus a Mali a’r Morfil, rhai o’i deitlau diweddar eraill yw Miracle of Hanukkah, Rama and Sita, Jack and the Jungle a Big Bad Biteasaurus (Bloomsbury), Fug and the Thumps (Firefly), Cinderfella (Walker Books) a Ootch Cootch (Graffeg), wedi’i ddarlunio gan ei ferch, Hannah Doyle.

Daw Andrew Whitson o Belfast ac mae’n artist arobryn sy’n hoffi cael ei alw’n Mr Ando! Mae Mr Ando wedi darlunio dros ugain o lyfrau o dan ei enw ei hun. Y diweddaraf o’r rhain yw llyfrau cyfres Mali gyda Malachy Doyle, a chyfres arobryn Rita, sef llyfrau stori-a-llun, gyda Myra Zepf.