Oed 7-9 | Clawr Meddal | 36 tudalen | 200 x 150mm
Cyhoeddwyd Mehefin 2023 | ISBN 9781802583649
Mae Colin yn byw gyda'i fam a'i frawd hyn ac mae'n ysu am gael tyfu i fyny. Ond pan mae'n cael reiffl aer gan ei frawd yn anrheg pen-blwydd, mae pethau'n mynd o chwith ac mae'n dod i sylweddoli bod saethu creaduriaid byw yn wahanol i saethu caniau gwag oddi ar wal yr ardd. Dyma stori bwerus am dyfu i fyny a derbyn cyfrifoldeb.
Gwelwch y gyfres Saesneg:
Mae’r awdur Nicola Davies wedi ennill nifer o wobrau, ac ymhlith ei llyfrau i blant mae The Promise (Gwobr Llyfrau Green Earth 2015, Rhestr Fer Greenaway 2015), Tiny (Gwobr AAAS Subaru 2015), A First Book of Nature, a Whale Boy (Rhestr Fer Gwobr Blue Peter 2014). Ymhlith ei llyfrau ar gyfer Graffeg mae Perfect (Rhestr Hir Greenaway 2017), The Pond, Animal Surprises (Rhestr Hir Klaus Flugge 2017), a chyfresi Shadows & Light a Country Tales.
Roedd gan Cathy Fisher wyth o frodyr a chwiorydd, a byddai’r plant i gyd yn chwarae yn y caeau’n edrych allan dros ddinas Caerfaddon. Mae wedi bod yn athrawes ac arlunydd drwy ei hoes, yn byw ac yn gweithio ar Ynysoedd y Seychelle ac Awstralia am flynyddoedd maith. Celf yw iaith frodorol Cathy. Pan oedd yn blentyn byddai’n tynnu lluniau ar waliau ei stafell wely, a byth ers hynny mae wedi teimlo bod rhaid iddi beintio a thynnu lluniau o storïau a theimladau am ei bod yn credu bod angen iddynt gael eu clywed. Perfect (Rhestr Hir CILIP Kate Greenaway 2017) oedd llyfr cyntaf Cathy i gael ei gyhoeddi, wedi ei ddilyn gan The Pond a chyfres Country Tales.