Oed 5-7 | Clawr meddal | 32 tudalen | 250 x 250mm
Cyhoeddiad Tachwedd 2020 | ISBN 9781912050093
Mae Perffaith wedi’i sgrifennu gan yr awdur plant arobryn, Nicola Davies, a’i ddarlunio’n hardd gan Cathy Fisher, gan godi pwnc anabledd trwy gyfrwng stori i ddarllenwyr ifanc. Mae’n adrodd hanes bachgen sy’n ymdrechu i dderbyn ei chwaer fach newydd am nad yw hi’r hyn roedd wedi’i ddisgwyl. Ond mae’r gwenoliaid sy’n plymio drwy’r awyr dros ben ei gartref yn helpu dangos iddo ei bod hi’n hollol berffaith.
Stori ryfeddol yw Perffaith am gyffro a siom, derbyn a chariad, a grym natur yn ein bywyd.
‘Un o’r llyfrau lluniau gorau i fi ei ddarllen erioed,’ meddai Jackie Morris
‘Mae Perfect wedi’i sgrifennu’n hyfryd iawn. Mae yn dueddol o wneud ichi grio, ond mae hefyd yn adrodd stori gwbl real,’ meddai Laura Carlin
‘Storïau wedi’u teimlo mor ddwys a’u llunio mor gain â hon yw’r bwyd sy’n faeth i’r enaid,’ meddai Nikki Gamble