Clawr meddal | Oed 3-5 | 36 tudalen | 250 x 250mm
Cyhoeddwyd Mehefin 2022 | ISBN 9781802581393
Dyma Mochyn Daear yn helpu Drewgi Bach i aduno a’i deulu yn y stori ddarluniadol hon am oddefgarwch a dealltwriaeth.
Magwyd Malachy Doyle ger y môr yng Ngogledd Iwerddon, ac ar ôl byw yng Nghymru ers blynyddoedd lawer mae wedi dychwelyd i Iwerddon. Mae Malachy wedi cyhoeddi ymhell dros gant o lyfrau, o lyfrau ‘pop-up’ i blant bach i nofelau graeanog i harddegwyr. Dros y blynyddoedd mae wedi ennill llawer o wobrau llyfrau o fri, ac mae ei waith ar gael mewn tua deg ar hugain o ieithoedd. Yn ogystal â’r storiau eraill yng nghyfres Mali, Mali a’r Môr Stormus, Mali a’r Morfil, Mali a’r Goleudy, mae ei lyfrau
eraill yn cynnwys The Miracle of Hanukkah, Rama and Sita, Jack and the Jungle a Big
Bad Biteasaurus ac Ootch Cootch, a ddarlunnir gan ei ferch, Hannah Doyle.