Clawr meddal | Oed 3-7 | 36 tudalen | 250 x 250mm
Tachwedd 2022 | ISBN 9781802581973
Teithia gyda’r Seren wrth i’w goleuni wibio ar draws 93 miliwn o filltiroedd o’i chartref i’r Ddaear, lle mae’n aeddfedu cnydau, yn ein cadw’n gynnes, yn creu tywydd, ac yn datgelu byd sy’n llawn rhyfeddod wrth iddo ddeffro.
Bardd yw Dom Conlon. Wrth siarad ar BBC Radio Lancashire, neu wrth gynnal gweithdai i blant, natur a’r sér sy’n llywio popeth mae’n ei wneud. Dywedodd Nicola Davies fod Astro Poetica yn ‘feddylgar, yn procio’r dychymyg a’r meddwl ac yn hwyl’. Barn Chris Riddell am This Rock That Rock oedd ei fod yn cynnwys ‘geiriau a lluniau oedd yn rhyfeddol ac yn wledd i’r llygad a’r glust’. Mae Dom yn gobeithio medru ysbrydoli pawb i ddarllen a sgwennu barddoniaeth.
Mae Anastasia Izlesou yn ddarlunydd a dylunydd rhyngddisgyblaethol o’r Deyrnas Unedig. Gan ddefnyddio cyfuniad o gyfryngau traddodiadol a digidol, mae’n creu gwaith egn ol sy’n llawn elfennau naturiol, mentrus. Daw ei hysbrydoliaeth o’r gwyddorau naturiol, llenyddiaeth a llên gwerin, a hefyd o eitemau bob-dydd ac eitemau kitsch.