Clawr meddal | Oed 5-7 | 32 tudalen | 250 x 200mm
Cyhoeddwyd Medi 2022 | ISBN 9781802583113
Mae Twrch yn poeni am bob dim; mae’n poeni y bydd rhywbeth yn mynd o’i le ar y moto-beic felly mae’n tynnu’r beic yn ddarnau – rhag ofn. Mae’n poeni y bydd aderyn yn nythu yn y corn simne ac felly mae’n dringo cangen coeden er mwyn gweld y to – rhag ofn. Ac yn waeth na dim, mae’n poeni bod bwci bos brawychus yn y tŷ, felly mae’n cuddio o dan y dillad gwely – rhag ofn.
Diolch i’r drefn, mae Llygoden, ei ffrind call ac annwyl, wrth law.
Click here to view the English edition
Llyfrau Llygoden a Twrch:
Mae Joyce Dunbar yn awdur plant toreithiog sydd wedi cyhoeddi dros 80 o lyfrau, wedi’u cyfieithu iw 20 iaith. Mae hefyd wedi ysgrifennu llawer o straeon ar gyfer radio a theledu ac wedi cyfrannu at sawl blodeugerdd. Erys cyfres Llygoden a Twrch fel rhai o’r llyfrau a drysorir fwyaf ymhlith ei gwaith.
Mae James Mayhew yn ddarlunydd ac yn awdur llyfrau plant, yn storiwr, yn artist ac yn gyflwynydd cyngerdd/perfformiwr celf byw. Mae ei waith yn cynnwys y cyfresi poblogaidd Katie ac Ella Bella Ballerina, yn ogystal â’r stori glasurol i blant The Knight Who Took All Day, cyfres Gaspard the Fox gydag awdur Zeb Soanes, a Koshka’s Tale - Stories From Russia.