Clawr meddal | Oed 3-5 | 32 tudalen | 250 x 200mm
Cyhoeddwyd Hydref 2022 | ISBN 9781802583236
Mae Rory yn ofni tywyllwch y gaeaf. Mae’n credu y gall ysbrydion a bwystfilod ddod allan o’r cysgodion. Felly mae Rory yn creu Draig y Gaeaf gyda chôt werdd a chrib goch lachar.
Mae’r ddraig yn dod yn fyw i ddweud storïau am farchogion a brwydrau, am goblynnod a thrysor - a thrwy ei anturiaethau yn ei freuddwydion mae Rory yn dod yn fachgen dewr. Ond wrth i’r gwanwyn ddod yn nes, mae Draig y Gaeaf yn breuddwydio am fynd yn ól i’w chartref tanllyd.
Click here to view the English edition
Mae Caroline Pitcher yn awdur sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n dathlu drwy ysgrifennu, fel byw yr eilwaith. Mae wedi ysgrifennu nifer o nofelau, gan gynnwys y llyfrau llun The Snow Whale, The Time of the Lion, Mariana and the Merchild, Nico’s Octopus, The Littlest Owl, Time for Bed, Home Sweet Home a Lord of the Forest.
Cafodd Sophy Williams ei hyfforddi yn yr Ysgol Gelf Ganolog a Choleg Politechnig
Kingston mewn dylunio graffeg. Ymhlith ei llyfrau mae Cat in the Dark: A Flurry of Feline Verse, wedi’u crynhoi gan Fiona Waters.