Clawr meddal | Oed 3-5 | 36 tudalen | 250 x 250mm
Cyhoeddwyd Mai 2022 | ISBN 9781802583243
Mae Ffion, sy’n ferch i ofalwr adeilad, yn drist wrth weld ei chymdogion yn rhuthro i mewn ac allan, yn rhy brysur am sgwrs. Ond a fydd teimlo’n drist yn helpu – neu oes angen defnyddio ychydig o ddychymyg? Mae Ffion yn mynd ati i greu dyfais a fydd, o bosib, yn codi pontydd rhwng pawb.
Ganwyd Julia Hubery yn Stamford a’i hyfforddi’n bensaer. Mae wedi cyhoeddi 16 llyfr stori-a-llun sydd wedi’u cyfieithu i sawl iaith, gan gynnwys When Granny Saved Christmas, A Little Fairy Magic a That’s What Friends are For – ar gyfer Little Tiger Press.
Mae James Munro wedi bod yn tynnu lluniau ers ei fod yn medru gafael mewn pensil. Ers hynny, mae wedi gorchuddio popeth mewn dŵdls – gan gynnwys llyfrau, cylchgronau, bwydlenni a ffilmiau! Mae’n byw mewn pentwr o bapur, naddion pensiliau ac inc yn Lerpwl. Uchelgais James yw cael sied fel un tad Ffion, rhyw ddydd.