
Clawr meddal | Oed 5-7 | 32 tudalen | 250 x 200mm
Cyhoeddwyd Tachwedd 2022 | ISBN 9781802582161
Mae Twrch wrth ei fodd â’r Nadolig! Tra bod Llygoden wrthi’n paratoi, mae Twrch yn meddwl, o agor pob un ffenest yn ei galendr adfent, y daw’r Ŵyl yn gynt. A fydd ei gynllun yn llwyddo?
Click here to view the English edition
Llyfrau Llygoden a Twrch:
Mae Joyce Dunbar yn awdur plant toreithiog sydd wedi cyhoeddi dros 80 o lyfrau, wedi’u cyfieithu iw 20 iaith. Mae hefyd wedi ysgrifennu llawer o straeon ar gyfer radio a theledu ac wedi cyfrannu at sawl blodeugerdd. Erys cyfres Llygoden a Twrch fel rhai o’r llyfrau a drysorir fwyaf ymhlith ei gwaith.
Mae James Mayhew yn ddarlunydd ac yn awdur llyfrau plant, yn storiwr, yn artist ac yn gyflwynydd cyngerdd/perfformiwr celf byw. Mae ei waith yn cynnwys y cyfresi poblogaidd Katie ac Ella Bella Ballerina, yn ogystal â’r stori glasurol i blant The Knight Who Took All Day, cyfres Gaspard the Fox gydag awdur Zeb Soanes, a Koshka’s Tale - Stories From Russia.