Clawr meddal | Oed 4-9 | 268x245mm
Cyhoeddwyd Chwefror 2025| ISBN 9781802587111
Cynnwys:
Pan fydd Polonius y merlyn yn dianc o’r pwll glo lle mae wedi bod yn gweithio gydol ei oes, mae’n ymuno â theulu o Deithwyr. Wrth iddo fwynhau’r awyr iach a’r rhyddid yn eu cwmni, mae Polonius am roi rhywbeth yn ôl i’r teulu am ofalu amdano. Pan ddaw’r cyfle iddo eu helpu, mae Polonius yn defnyddio ei glyfrwch a’i sgiliau i achub y dydd. Wedi ei seilio ar ddigwyddiadau go iawn a’i adrodd gan storïwr penigamp, mae’r hanes yma’n dangos gwir werthoedd y Teithwyr – eu hannibyniaeth, eu dyfeisgarwch, eu dewrder a’u parodrwydd i weithio’n galed.
Awdur:
Cafodd Richard O’Neill ei enu a’i fagu mewn teulu mawr Romani traddodiadol yng Ngogledd Lloegr. Mae’n storïwr ac awdur arobryn sy’n adrodd ei storiâu gwreiddiol mewn ysgolion, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a theatrau ar draws y DU.
Mae’n storïwr chweched genhedlaeth, a dyfodd i fyny mewn traddodiad llafar egnïol o adrodd straeon, gan ddysgu ei sgiliau gan rai o storïwyr Teithiol gorau Lloegr, yr Alban, Iwerddon a Chymru. Mae Richard yn awdur o un ar ddeg o lyfrau plant, ac mae ei straeon a’i ddramâu wedi cael eu darlledu ar radio BBC. Mae ei straeon digidol wedi eu mwynhau ledled y byd, ac yn 2013, ef oedd derbynydd y wobr National Literacy Hero.