Y Bachgen, y Wahadden, y Llwynog a’r Ceffyl Charlie Mackesy, Mererid Hopwood, published by Graffeg
Y Bachgen, y Wahadden, y Llwynog a’r Ceffyl

  • Load image into Gallery viewer, Y Bachgen, y Wahadden, y Llwynog a’r Ceffyl Charlie Mackesy, Mererid Hopwood, published by Graffeg
  • Load image into Gallery viewer, Y Bachgen, y Wahadden, y Llwynog a’r Ceffyl

Vendor
Charlie Mackesy a Mererid Hopwood
Regular price
£16.99
Sale price
£16.99
Regular price
Sold out
Unit price
per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Cyhoeddiad 23 Medi 2021 - rhag-archebu nawr

Clawr caled | 128 tudalen | 215 x 165mm
Cyhoeddwyd Medi 2021 | ISBN 9781914079597

Darganfyddwch lyfr arbennig iawn sydd wedi dal calonnau miliynau o ddarllenwyr ledled y byd.

Wedi'i addasu o un o lyfrau mwyaf adnabyddus y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Y Bachgen, y Wahadden, y Llwynog a'r Ceffyl yn fynegiant o gyfeillgarwch, caredigrwydd a thosturi rhwng pedwar cydymaith annhebygol. Yn llawn lluniau a thestun hardd, a grëwyd yn wreiddiol gan Charlie Mackesy ac sydd bellach wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg gan Mererid Hopwood, mae'r testun unigryw hwn wedi taro tant â darllenwyr ledled y byd gyda'i wersi bywyd tyner sy'n ein atgoffa o bŵer cyfeillgarwch yng nghanol byd blith-draphlith. Wedi'i gyhoeddi yn gyntaf yn 2019 gan Penguin, mae'r llyfr hwn wedi mynd ymlaen i ddominyddu gwerthiant llyfrau ledled y byd, gan werthu dros filiwn o gopïau a chael ei gyfieithu i 22 iaith.

‘Mae gofyn i fi fyw yn y byd hwn, ond y byd yr hoffwn i fyw ynddo yw’r byd a greodd Charlie Mackesy.’ – Elizabeth Gilbert

‘Cariad, cyfeillgarwch a charedigrwydd – mae’r llyfr hwn yn siarad iaith yr oesoedd.’ – Bear Grylls

‘Campwaith celf rhyfeddol a ffenest ryfeddol ar galon y ddynolryw.’ – Richard Curtis

‘Yn syml, mae angen gwaith Charlie ar y byd, a hynny nawr.’ – Miranda Hart

Ganed Charlie Mackesy yn ystod gaeaf oer iawn o eira yn Northumberland. Dechreuodd Charlie fel cartwnydd i The Spectator a darlunydd llyfrau ar gyfer Gwasg Prifysgol Rhydychen cyn cael ei gymryd ymlaen gan orielau. Arddangosodd darluniau yn gyntaf yn Llundain, yn The Park Walk Gallery, ac ers
hynny mae wedi arddangos mewn orielau yn Efrog Newydd, Llundain a Chaeredin. Mae gwaith Charlie yn ymddangos mewn llyfrau, casgliadau preifat a mannau cyhoeddus, gan gynnwys Mynwent Highgate yn Llundain, mewn ysbytai, carchardai, eglwysi a cholegau prifysgol ledled y DU, ac mewn tai diogel menywod ledled y byd. Un o’i amseroedd hapusaf oedd gwneud lluniadau i Richard Curtis ar set Love Actually fel y gallent ymddangos mewn ocsiwn ar gyfer Comic Relief. Cynhyrchodd ‘The Unity Series’, set gydweithredol o lithograffau gyda Nelson Mandela yn 2006. Mae ei daith gyda The boy, the mole, the fox and the horse wedi cymryd drosodd ei fywyd. Mae’n byw yn eu byd nhw lawer o’r amser ac mae wedi bod wrth ei fodd yn llunio’r llyfr. Bydd eu hanturiaethau yn parhau.

Mae Mererid Hopwood wedi ysgrifennu, golygu a throsi nifer o weithiau i blant, gan gynnwys cyfres nofelau Miss Prydderch, Fy Llyfr Englynion a Geiriau Diflanedig, sef trosiad o waith Rob Macfarlane gyda darluniadau gan Jackie Morris.