Albert Anferth
Albert Anferth
Albert Anferth
Albert Anferth
Albert Anferth
  • Load image into Gallery viewer, Albert Anferth
  • Load image into Gallery viewer, Albert Anferth
  • Load image into Gallery viewer, Albert Anferth
  • Load image into Gallery viewer, Albert Anferth
  • Load image into Gallery viewer, Albert Anferth

Albert Anferth

Vendor
Ian Brown and Eoin Clarke
Regular price
£7.99
Sale price
£7.99
Regular price
Sold out
Unit price
per 

Tax included.

For UK deliveries shipping is calculated at checkout. For International deliveries check shipping options here. We currently offer international delivery to the following territories: Europe, United States, Canada, Australia and New Zealand.

Ar restr fer Cogan Heroes Picture Book Award 2023

 

Clawr meddal | Oed 3-5 | 36 tudalen | 250 x 250mm
Cyhoeddwyd Mai 2022 | ISBN 9781802581713

Mae Albert y crwban anwes yn cael antur. Rhaid iddo herio deinosoriaid enfawr a
llosgfynydd tanllyd. Yna, yn ôl yn yr ardd, rhaid iddo helpu ei ffrindiau bach sydd â’u trafferthion eu hunain. Daw’r darluniau hyfryd â’r stori fawr hon yn fyw – mae’n stori
am gyfeillgarwch, breuddwydion ac am y pwysigrwydd o helpu eraill, beth bynnag fo eu maint. Ceir yma hefyd ffeithiau di-ri a difyr am yr Albert go iawn – deinosor bach a llysieuwr o fri – ac ysbrydoliaeth y stori hyfryd hon, ynghyd â ffeithiau am ei gefndryd deinosoraidd.

Click here to view the English edition

Llyfr Albert:

Ysgrifennydd, chynhyrchydd a chyn-newyddiadurwr o Lundain ydy Ian Brown. Mae ei waith yn cynnwys The South Bank Show, This Is Your Life, Top Gear, rhaglenni dogfen ac adloniant. Ysgrifennodd a chynhyrchodd ar gyfer enwogion fel Pierce Brosnan, Harrison Ford, Simon Cowell, George Lucas, Liam Neeson, Martin Scorsese, Jamie Oliver, a Homer Simpson ymhlith niferoedd eraill. Cyfres Albert yw ei lyfrau plant cyntaf.

Mae Eoin Clarke wedi gweithio am dros 30 mlynedd o fewn y diwydiant animeiddio fel animeiddiwr a chyfarwyddwr - mae ei waith yn y byd ffilm, rhaglenni dogfen, a hysbysebion wedi'u clodi gyda dros drideg o ddyfarniad. Mae ei gleientiaid yn cynnwys y BBC, Channel 4, BFI, a Ray Harryhausen, fel artist byrddai stori, yn ogystal ag animeiddio ar gyfer rhaglenni poblogaidd gydag Harry Hill a Mortimer & Whitehouse: Gone Fishing. Cyfres Albert yw ei lyfrau darluniadol cyntaf.

Adolygiadau: 

'Hoff stori cyn amser gwely ar gyfer ein Albert ni.' - Danny Miller, actor, enillydd I'm a Celebrity. 

'Stori hyfryd am gyfeillgarwch a breuddwydion mawr.' - It's All About Stories

'Darluniau lliwgar a meddylgar.' - Best of British Magazine

'Byddwn i yn argymell y llyfr yma i bawb, nid yn unig ydy o'n stori hwyl, ond mae'r stori yma hefo cymaint apêl i'r olwg hefo'r holl fanylion yn ogystal â'r tudalennau lliwgar ar y dechrau. Mae’n fwy o hwyl i unrhyw un sydd yn hoff o ddinosoriaid.' - The Strawberry Post