Canllaw Anrhegion Nadolig 2022 Graffeg bach

Ffefrynnau'r Nadolig

Llygoden a Twrch Ar y Gair!

Joyce Dunbar a James Mayhew


Mae Twrch wrth ei fodd â’r Nadolig! Tra bod Llygoden wrthi’n paratoi, mae Twrch yn meddwl, o agor pob un ffenest yn ei galendr adfent, y daw’r Ŵyl yn gynt. A fydd ei gynllun yn llwyddo?


£7.99


Nadolig Gaspard

Zeb Soanes and James Mayhew


Wrth chwilio am fwyd ar y strydoedd llawn eira, mae Gaspard yn darganfod rhywbeth anhygoel a, gyda chymorth ei ffrindiau, efallai y bydd yn achub y Nadolig.  Antur twymgalon Nadoligaidd i lwynog mwyaf golygus Llundain. 


£7.99


Cynan a'r Bluen Eira

Julia Rawlinson and Tiphanie Beeke


Mae’n noswyl Nadolig ac mae Cynan yn poeni. Beth os na all Si n Corn ddod o hyd i gartref newydd y cwningod, a beth am eu hanrhegion? Ond mae gan Cynan syniad.


£7.99


Llyfrau lluniau i helpu ddeall teimladau

Siwmper Mam

Jayde Perkin


Os yw Mam wedi mynd, sut wyt ti’n dal ati? Mae gweld ei cholli hi’n teimlo fel cwmwl du sy’n dy ddilyn i bobman. Llyfr syml, cynnes, i godi calon unrhyw un sy’n delio â cholled. Mae’r llyfr hwn ar restr y cynllun Darllen yn Well i blant gan The Reading Agency.


£8.99


Llyfr Trist

Michael Rosen a Quentin Blake


Cyhoeddwyd gyntaf gan Walker Books. Pwy sy’n drist? Gall unrhyw un fod yn drist. Mae’n dod o unman ac yn dod o hyd i ti. Mae’r llyfr hwn ar restr y cynllun Darllen yn Well i blant gan The Reading Agency.


£7.99


Byd Frankie

Aoife Dooley


Frankie ydw i. Dwi’n hoffi celf, pizza a cherddoriaeth roc. Fi ydy’r byrraf yn y dosbarth ac mae rhai’n dweud ’mod i’n siarad gormod. Waeth beth wna i, dwi’n wahanol, mae hynny’n ffaith. The Reading Agency.


£8.99


Y Pwll

Nicola Davies a Cathy Fisher


Llyfr lluniau teimladwy yw Y Pwll am fachgen ifanc, a’i deulu, wrth ddygymod â cholli ei dad. Mae’r llyfr yn lliwgar, yn emosiynol, yn rymus ac yn llawn natur


£7.99


Perffaith

Nicola Davies a Cathy Fisher


 Mae’n adrodd hanes bachgen sy’n ymdrechu i dderbyn ei chwaer fach newydd am nad yw hi’r hyn roedd wedi’i ddisgwyl. Ond mae’r gwenoliaid sy’n plymio drwy’r awyr dros ben ei gartref yn helpu dangos iddo ei bod hi’n hollol berffaith.


£7.99


Y Ferch Newydd

Nicola Davies a Cathy Fisher


Daw merch i ysgol newydd mewn tref ddiethr. Mae’r plant yn ei dosbarth yn gas tuag ati, yn flin bod dieithryn yn eu plith. Ymateb y ferch yw creu rhywbeth hardd sy’n newid eu hagwedd tuag ati.


£7.99


Llyfrau lluniau ar gyfeillgarwch

Llyfrau lluniau i chwerthin drosto

Ffefrynnau teulu

Arglwydd y Fforest

Caroline Pitcher, Jackie Morris a Mererid Hopwood


Y mae popeth mae Teigr bach yn ei glywed yn newydd ac yn gyffrous. Pan mae’n dweud wrth ei fam am y synau o’i gwmpas mae hi’n ei atgoffa ‘Pan na fyddi di’n eu clywed, bryd hynny, fy mab, bydd barod. Bydd Arglwydd y Fforest yma!’ Ond pwy yw Arglwydd y Fforest, a phryd bydd Teigr yn gwybod?


£20


Ga'i Hanes Draig

Jackie Morris a Mererid Hopwood


Yn y llyfr lluniau hudolus hwn mae Jackie Morris yn consurio byd lle mae gan bawb eu draig eu hun a stori i’w hadrodd amdanynt, gan archwilio eu holl amrywiaeth drwy ysgrifennu telynegol a darluniau hyfryd. 


£20


Geiriau Diflanedig

Robert Macfarlane, Jackie Morris a Mererid Hopwood


Mae’r llyfr hanfodol hwn yn dathlu iaith dan fygythiad a’r byd naturiol y mae’n ei ddisgrifio drwy ‘swynganeuon’ acrostig Robert Macfarlane, pob un yn dal hud a lledrith cynhenid eu pwnc ac yn annog ymgysylltiad adfywied gyda’r byd o’n cwmpas.


£25


Y Bachgen, y Wahadden, y Llwynog a'r Ceffyl

Charlie Mackesy a Mererid Hopwood


Wedi'i addasu o un o lyfrau mwyaf adnabyddus y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Y Bachgen, y Wahadden, y Llwynog a'r Ceffyl yn fynegiant o gyfeillgarwch, caredigrwydd a thosturi rhwng pedwar cydymaith annhebygol.


£16.99


Cwtsho!

Sarah Kilbride a James Munro


Gair Cymraeg am fôr o gariad yw cwtsh. Mae’r gerdd ddarluniadol hyfryd hon yn gwneud i ni feddwl am yr ystum o gwtsho mewn ffordd newydd, er mwyn rhannu ei gynhesrwydd a’i allu i iacháu.


£6.99


Leave a comment